Mae Insight HRC wedi’i sefydlu ac yn gweithio yng Nghymru a ledled y DU ers mwy na 25 mlynedd. Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol yn Ne Cymru, ac rydym yn falch o’n treftadaeth Gymreig ac yn teimlo’n freintiedig ein bod wedi gweithio gyda dros 200 o’r prif sefydliadau cyhoeddus a phreifat ledled y wlad ar hyd y blynyddoedd.
Rydym wedi gweld twf yr iaith Gymraeg – wrth iddi gael ei chyflwyno yn ein hysgolion a dod yn fwy amlwg ar draws busnesau yn economi Cymru. Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith, gan wneud hynny gyda pharch a sensitifrwydd.
Er mwyn caniatáu i bobl ffynnu yn eu sefydliadau yng Nghymru, credwn ei bod yn bwysig creu cyfleoedd i bobl siarad yr iaith o’u dewis a pharhau i ddatblygu eu sgiliau iaith. Rydym yn hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg yn ein sefydliad ein hunain a chyda chleientiaid a phartneriaid yng Nghymru.
Mae ein tîm wedi cwblhau gweithdai ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg ac yn gweithio i ehangu ein darpariaeth fel bod ein cleientiaid a’n cynrychiolwyr yn cael profiad cynhwysol tra eu bod ar eu taith ddatblygu gydag Insight.
Rydym yn ymrwymo i’r camau hyn i gefnogi darpariaeth Gymraeg:
- Darparu’r gallu i gyd-greu cynnwys rhaglenni yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Darparu adnoddau yn Gymraeg i siaradwyr Cymraeg lle bo hynny’n bosibl.
- Rhoi cyfleoedd i gyfranogwyr gyfathrebu lle bo hynny’n bosibl yn eu dewis iaith mewn rhannau penodol o sesiynau datblygu.
- Ehangu ein rhwydweithiau mewnol i gynnwys mwy o siaradwyr Cymraeg.
- Annog a chefnogi pob aelod o’n tîm i gryfhau eu gallu yn yr iaith Gymraeg pe byddent yn dymuno gwneud hynny.
Insight HRC have been established and working in Wales and across the UK for more than 25 years. Originally founded in South Wales, we are proud of our Welsh heritage and feel privileged to have worked with over 200 of the top public and private organisations across the nation throughout the years.
We have seen the growth of the Welsh language – both through it’s introduction in our schools and its prevalence across businesses within the Welsh economy. We acknowledge and support the importance of promoting the Welsh language within our work, and doing so with respect and sensitivity.
We believe that to allow people to thrive in their organisations in Wales, it is important to create opportunities for people to speak the language of their choice and continue to develop their language skills. We actively champion the use of Welsh language within our own organisation and with clients and partners in Wales.
Our team have completed Welsh Language awareness workshops and are working to broaden our provision so that our clients and delegates get an inclusive experience whilst on their development journey with Insight.
We commit to these actions to support Welsh language provision:
- Providing the ability to co-create programme content in English and Welsh.
- Provide resources in Welsh for Welsh speakers where possible.
- Provide opportunities for participants to communicate where possible in their chosen language in specific parts of development sessions.
- Broaden our internal networks to include more Welsh speakers.
- Encourage and support every member of our team to strengthen their Welsh language ability should they wish to do so.